Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 31 Ionawr 2024
Amser:
09.29 -
11.08
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13663
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Paul Davies AS (Cadeirydd) Alun Davies AS (yn lle Buffy Williams AS) Luke Fletcher AS Samuel Kurtz AS |
Tystion: |
Yr Athro Dylan Jones-Evans, Unigolyn |
Staff y Pwyllgor: |
Rob Donovan, Clerc Lara Date, Ail Glerc Evan Jones, Dirprwy Glerc Ceri Thomas, Swyddog Cymorth y Pwyllgor Gareth Howells, Cynghorydd Cyfreithiol Sara Moran, Ymchwilydd Ben Stokes, Ymchwilydd Gareth Thomas, Ymchwilydd |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Vikki Howells AS a Buffy Williams AS. Roedd Alun Davies AS yn bresennol fel dirprwy.
1.3 Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
2.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel ar Fanc Datblygu Cymru.
3.2 Cytunodd yr Athro Dylan Jones-Evans i ysgrifennu at y Pwyllgor i roi gwybodaeth ychwanegol am Fanc Datblygu Cymru
4.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel) a chytunwyd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi i ofyn am wybodaeth ychwanegol.
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunwyd arno
8.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am adroddiad cynnydd.
9.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o graffu a chytunwyd arno.